Cynulliad Cenedlaethol Cymru

National Assembly for Wales

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

Economy, Infrastructure and Skills Committee

Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol

Regional Skills Partnerships

EIS(5) RSP19

Ymateb gan Comisiynydd y Gymraeg

 

Evidence from Welsh Language Commissioner

 

Diolch ichi am y cyfle i ymateb i’ch ymchwiliad. Mae ein hymateb yn canolbwyntio’n benodol ar faterion yn ymwneud â rôl Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol (PSRhau) yn casglu gwybodaeth am yr angen am sgiliau Cymraeg ac yn cyfathrebu’r wybodaeth hon. Er ein bod ni’n cydnabod gwaith gwerthfawr gan y Partneriaethau i’r perwyl hwn, hoffem bwysleisio’r pwyntiau canlynol:

¢  Pryderwn nad yw’r data am anghenion sgiliau Cymraeg a gesglir ar hyn o bryd gan y Partneriaethau yn ddigon cynhwysfawr, a bod gormod o ddibyniaeth ar ymchwil blaenorol sydd wedi dyddio erbyn hyn o bosibl;

¢  Credwn bod diffyg cysondeb yn y sylw a roddir i’r Gymraeg mewn cyhoeddiadau gan Bartneriaethau unigol; 

¢  Nodwn nad yw’r dystiolaeth a gesglir yn arwain at argymhellion clir a phenodol am y Gymraeg yn aml;

¢  Nodwn bod Partneriaeth Gogledd Cymru’n hyrwyddo’r Gymraeg yn rhagweithiol, ond nid yw’r Partneriaethau eraill wedi ymgymryd â gweithgareddau tebyg.

Mae adran 4 ein hymateb yn cynnig cyfres o argymhellion i’r Pwyllgor eu hystyried ar sail y casgliadau uchod.

1           Sylwadau rhagarweiniol

Mae’r sector addysg ôl-16 a’r gweithle yn hollbwysig ar gyfer ffyniant y Gymraeg, ac yn ganolog i wireddu uchelgais Strategaeth Cymraeg 2050 i gynyddu’r defnydd o’r iaith. Mae gan PSRhau ddylanwad pwysig a chynyddol ar y drefn o gynllunio darpariaeth addysg ôl-16 a datblygu gweithlu Cymru, gan gynnwys ar gynifer o ddatblygiadau polisi sy’n uniongyrchol berthnasol i ddyfodol y Gymraeg yn y ddau faes hwn (gweler y troednodyn am fanylion)1 O ystyried hyn, mae’n gwbl allweddol bod PSRhau yn rhoi sylw cynhwysfawr i’r Gymraeg, gan yn benodol:

¢  cyfrannu at greu sail tystiolaeth gadarn am anghenion sgiliau Cymraeg;

¢  lledaenu’r wybodaeth hon yn effeithiol.

Mae ein hymateb yn seiliedig ar adolygiad o’r prif gyhoeddiadau sydd ar wefannau’r Partneriaethau, yn ogystal â thrafodaethau â swyddogion y Partneriaethau, Llywodraeth Cymru ac eraill.

Mae’n bwysig cydnabod bod cyfyngiadau i’r sail dystiolaeth hon. Rydym yn ategu casgliad Graystone (Mawrth 2018) nad yw’n rhwydd bob tro ddarganfod manylion am hyd a lled gwaith PSRhau, gan gynnwys hefyd fanylion y cyfarwyddyd y maent yn ei dderbyn oddi wrth Lywodraeth Cymru. Er ein bod yn ymwybodol bod y Partneriaethau unigol wrthi’n gweithio i ymateb i’r pryder hwn, ar hyn o bryd nid oes cysondeb yn nifer na math y cyhoeddiadau sydd ar gael ar eu gwefannau. Hyderwn y bydd y Pwyllgor yn fodlon defnyddio’r ymchwiliad er mwyn ehangu ar y dystiolaeth sydd ar gael gennym.

2         Casglu data am anghenion sgiliau Cymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn gosod eu gofynion ar gyfer gwaith PSRhau mewn llythyron gwaith blynyddol. Er nad yw llythyron gwaith blynyddol PSRhau ar gael ar wefannau’r Partneriaethau, deallwn ar sail trafodaethau gyda sawl swyddog nad oedd y llythyron hyn yn cynnwys gofynion ffurfiol manwl ar PSRhau i roi sylw i’r Gymraeg cyn 2017. Fodd bynnag, ceir rhywfaint o sylw i’r Gymraeg hefyd yn allbynnau’r Partneriaethau cyn y dyddiad hwnnw. 

2.1          Ffynonellau’r data

Mae Partneriaeth Ddysgu a Sgiliau Ranbarthol De Orllewin a Chanolbarth Cymru (RLSP) a Phartneriaeth Dysgu, Medrau ac Arloesi De Ddwyrain Cymru (LSkIP) yn defnyddio holiadur ar-lein i gasglu gwybodaeth gan gyflogwyr. Deallwn fod y ddwy Bartneriaeth hon yn defnyddio’r un set o gwestiynau, sef:

¢  Ydy’r Gymraeg yn bwysig ar gyfer eich busnes?

¢  Ydy defnydd y Gymraeg yn eich busnes yn cynyddu?

¢  Ydy hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig ar gyfer eich busnes?

¢  Sut, yn eich barn, gallasai eich busnes gynyddu defnydd y Gymraeg i gydfynd gyda blaenoriaethau Llywodraeth Cymru (os o gwbl)?

Nid yw Partneriaeth Gogledd Cymru’n defnyddio holiadur i gasglu gwybodaeth am anghenion cyflogwyr ar hyn o bryd. Fodd bynnag, gwyddom fod y Bartneriaeth hon yn bwriadu dechrau cynnal arolwg cyflogwyr hefyd o 2019 ymlaen.

Yn hytrach, deallwn fod Partneriaeth Gogledd Cymru’n dibynnu ar ddulliau eraill o gasglu’r data, gan gynnwys trwy ymgysylltu â chyflogwyr mewn digwyddiadau. Mae RLSP a LSkIP hefyd yn cynnal cyfarfodydd â fforymau tebyg. Clywsom gan swyddogion y tair Partneriaeth fod sylw i’r Gymraeg yn y digwyddiadau hyn. Fodd bynnag, mae cofnodion o’r gweithgareddau hyn ar wefannau’r Partneriaethau yn brin. Os byddant ar gael (e.e. ar wefan LSkIP) prin yw’r cyfeiriadau penodol at y Gymraeg ynddynt. 

Yn ogystal, mae’n debyg fod pob Partneriaeth hefyd yn dibynnu ar yr ymchwil sydd eisoes yn bodoli. Mae hyn yn cynnwys Cyfrifiad (2011); adroddiad ymchwil Anghenion Sgiliau Cymraeg Mewn Wyth Sector (2014); ac Arolwg Sgiliau Cyflogwyr (2015). Hefyd, dibynnir ar Adroddiadau Rhanbarthol ar Wybodaeth am y Farchnad Lafur oddi wrth Lywodraeth Cymru. O ran y Gymraeg, mae’r adroddiadau hyn yn ailgyflwyno’r wybodaeth o’r ymchwil uchod, ynghyd â’r data am nifer y cofrestriadau mewn SAU yng Nghymru sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. 

2.2        Digonolrwydd y data

Yn amlwg, mae PSRhau yn casglu rhywfaint o ddata gwerthfawr iawn am y Gymraeg. Fodd bynnag, mae gennym sawl pryder am y data a gesglir:

¢  Clywsom ar sawl achlysur bod graddfa ymateb i arolygon y Partneriaethau yn isel yn gyffredinol. O ran y Gymraeg yn benodol, awgrymodd sawl un i ni bod graddfa ymateb yn isel hefyd.2 Gallasai safle’r cwestiynau am y Gymraeg (ar ddiwedd yr holiadur) a/neu eiriad y cwestiynau fod yn ffactorau sy’n dylanwadu ar y sefyllfa hon;

¢  Mae’r cwestiynau am y Gymraeg yn weddol sylfaenol o gymharu â’r ymchwil manwl yn y maes, e.e. Anghenion Sgiliau Cymraeg Mewn Wyth Sector (2014); 

¢  Mae’r sectorau sydd dan sylw gan y Partneriaethau yn amrywio. E.e. roedd ymchwil RLSP yn cwmpasu’r sector addysg yn 2016, ond nid yn y blynyddoedd dilynol. Canolbwyntiodd LSkIP yn 2018 ar y sector Adeiladu, Addysg, Gofal Cymdeithasol a Thwristiaeth ond nid ar y sectorau eraill;

¢  Yn hytrach na chasglu data newydd gwelwyd yn aml bod casgliadau PSRhau yn seiliedig ar ymchwil sydd eisoes yn bodoli ac sydd wedi dyddio erbyn hyn.

¢  Fel y nodwyd eisoes, mae’n anodd gwirio pa sylw sydd i’r Gymraeg yn y gweithgareddau ymgysylltu â chyflogwyr oherwydd diffyg cofnodion hygyrch. 

Mae’n bwysig nodi hefyd ar y pwynt hwn bod nifer o randdeilaid a mecanweithiau yn ogystal â PSRhau sydd hefyd yn casglu gwybodaeth am anghenion cyflogwyr am sgiliau Cymraeg a lefelau’r sgiliau hyn o fewn sefydliadau. Mae’r rhain yn cynnwys: 

¢  Busnes Cymru (Proffil Sgiliau) 

¢  Gyrfa Cymru (cofrestr Cyfnewidfa Addysg Busnes) 

¢  y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (Gwiriwr Lefel Dysgu Cymraeg) 

¢  Cymwysterau Cymru (adolygiadau sector)

¢  colegau unigol (e.e. trwy fforymau cyflogwyr). 

Mae fy swyddfa i hefyd yn casglu data am y sector preifat a’r trydydd sector trwy ein gweithgareddau hybu. Yn ogystal, mae’r sefydliadau sy’n gweithredu safonau’r Gymraeg o dan ddyletswydd i lunio adroddiadau blynyddol sy’n cynnwys data am lefelau sgiliau Cymraeg eu cyflogeion. 

Mae angen rhoi sylw i sut mae’r ymdrechion hyn yn ategu ei gilydd i roi darlun llawn a chyson o sgiliau Cymraeg gweithlu Cymru. 

3         Rhannu gwybodaeth am anghenion sgiliau Cymraeg

3.1          Sylw i’r Gymraeg mewn cyhoeddiadau ac yng ngweithgareddau’r Partneriaethau

Yn ddi-os, ceir rhywfaint o sylw i’r angen am sgiliau Cymraeg yng Nghynlluniau Sgiliau a Chyflogaeth a chyhoeddiadau cysylltiedig y Partneriaethau. E.e.

¢  Mae Cynllun Partneriaeth Gogledd Cymru ar gyfer 2017 yn rhoi lle blaengar i’r Gymraeg, gan danlinellu’n gryf berthnasedd a gwerth dwyieithrwydd. Gosodir nodau penodol mewn cysylltiad â’r Gymraeg, gan gynnwys hyrwyddo prentisiaethau cyfrwng Cymraeg. Ceir sylw penodol i’r Gymraeg yn y sector Iechyd a Gofal, a Thwristiaeth a Lletygarwch.

¢  Mae cynllun RLSP ar gyfer 20183 yn ymrwymo dau baragraff i’r Gymraeg, ynghyd â sawl cyfeiriad achlysurol yng nghyd-destun sectorau penodol lle gwelir rhywfaint o alw (e.e. Twristiaeth a Lletygarwch; Diwydiannau Creadigol; Iechyd a Gofal). O gymharu, ystyriodd Cynllun RLSP 2017 y Gymraeg ym mhob proffil sector.

¢  Mae Cynllun Medrau a Chyflogaeth 2017 Prifddinas-Ranbarth Caerdydd LSkiP yn cyfeirio at sgiliau Cymraeg yng nghyd-destun y sector TG a’r economi sylfaenol. Cyfeirir hefyd at argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg yn y sectorau penodol; a galw am athrawon sy’n medru’r Gymraeg. Ceir sylw i’r Gymraeg yn adroddiad ar ganfyddiadau Arolwg Sgiliau CBaCh 2017,4 ac Arolwg Sgiliau Busnes 2018 sy’n ystyried y sector Adeiladu, Addysg, Gofal Cymdeithasol a Thwristiaeth. Mae data’r Arolwg 2018 o ran sgiliau Cymraeg yn derbyn sylw yn adroddiad blynyddol llawn y Bartneriaeth i Lywodraeth Cymru. Barnir yna fod y canfyddiadau’n ‘gymysg’ ar y cyfan. Mae’n bwysig nodi, fodd bynnag, nad yw’r adroddiad hwn ar wefan y Bartneriaeth ar adeg ysgrifennu. Yn hytrach, mae fersiwn fyrrach (sydd ar gael yn y fan hon) yn cynnwys dim ond cyfeiriadau cyfyngedig iawn at y Gymraeg. 

Yn ogystal, ceir enghreifftiau o gyhoeddiadau a gweithgareddau sy’n canolbwyntio’n neilltuol ar y Gymraeg. E.e.

¢  Cyhoeddodd RLSP adroddiad ar wahân am y Gymraeg (heb ddyddiad, ond tua 2014 yn ôl pob tebyg). Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys data am addysg cyfrwng Cymraeg ac agweddau tuag at sgiliau Cymraeg yn y rhanbarth; gofynion statudol a chynlluniau iaith a weithredir gan y prif sefydliadau; a gwybodaeth am y cyd-destun polisi ehangach.

¢  Yn ddiweddarach, cyhoeddodd Partneriaeth Gogledd Cymru adroddiad Yr Iaith Gymraeg yng Ngogledd Cymru, gan weithio ar y cyd â chyflogwyr, darparwyr addysg a rhanddeiliaid eraill. Cyfrannodd fy swyddfa i hefyd at y gwaith. Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys data ystadegol, e.e. am ddefnydd y Gymraeg yn y sector addysg statudol ac ôl-16 ac anghenion sgiliau Cymraeg yn y rhanbarth. Ceir hefyd gyfres o astudiaethau achos gan sefydliadau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg ar draws eu gwaith; a chyfraniadau gan y prif randdeiliaid. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys casgliadau ac argymhellion.

Yn ogystal, deallwn fod Partneriaeth Gogledd Cymru hefyd yn hyrwyddo’r Gymraeg yn rhagweithiol. Nododd adroddiad Yr Iaith Gymraeg yng Ngogledd Cymrufod yna botensial i sefydlu fforwm rhanbarthol er mwyn cydlynu hyrwyddo’r Gymraeg ar draws yr ardal. Er y penderfynwyd yn y pen draw beidio â sefydlu strwythur newydd, gwyddom fod cynllun gweithredu manwl wedi ei gytuno a bellach wedi ei roi ar waith, mewn cydweithrediad agos â Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Gogledd Cymru (GwE).

3.2        Digonolrwydd y sylw i’r Gymraeg

Fel y trafodwyd uchod, mae cyhoeddiadau’r Partneriaethau yn cynnwys rhywfaint o sylw i’r Gymraeg. Fodd bynnag:

¢  Mae ystod y sylw yn amrywio o Bartneriaeth i Bartneriaeth. Mae Partneriaeth Gogledd Cymru’n gosod y Gymraeg wrth galon ei chyhoeddiadau. O gymharu, mae cyhoeddiadau’r Partneriaethau eraill yn cynnwys cyfeiriadau at y Gymraeg mewn rhai adrannau, ond nid mewn mannau eraill. Mae’r cyfeiriadau hyn yn gyfyngedig iawn ar adegau.

¢  Nid yw’r Gymraeg yn derbyn sylw ym mhob cyhoeddiad atodol perthnasol. E.e. nid oes sylw i’r iaith yn adroddiad RLSP ar brentisiaethau (2015). 5

 

¢  Nid oes cysondeb yn y data a gesglir ac yr adroddir arno gan y Partneriaethau. Ni amlygir anghenion sgiliau Cymraeg ym mhob sector ar bob adeg. Yn aml, ni welir sylw clir i argaeledd addysg cyfrwng Cymraeg na’r niferoedd sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn aml, nid oes sylw i’r Gymraeg yng nghyd-destun rhaglenni hyfforddi allweddol megis prentisiaethau.

¢  Nid yw’n syndod felly mai dim ond yn achlysurol y gwelir argymhellion clir a phenodol am yr angen am sgiliau Cymraeg mewn Cynlluniau Sgiliau a Chyflogaeth (er y nodwn dri argymhelliad i’r perwyl hwn yng Nghynllun Partneriaeth Gogledd Cymru 2017; ac un yng Nghynllun LSkIP 2017).

¢  Mae’r cyhoeddiadau neilltuol am y Gymraeg yn cynnig dull defnyddiol iawn o ledaenu gwybodaeth berthnasol. Croesawn yn enwedig yr adroddiad diweddar gan Bartneriaeth Gogledd Cymru. Prif gryfder yr adroddiad yw fod ynddo argymhellion a chamau gweithredu ac nid yw’n adrodd ar y dystiolaeth yn unig. Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn nodi’n glir wendidau’r data am anghenion sgiliau Cymraeg sydd ar gael.

¢  Mae Partneriaeth Gogledd Cymru’n mynd un cam ymhellach na’r lleill gan weithredu’n rhagweithiol i hyrwyddo’r Gymraeg yn ei rhanbarth. Ni welwyd enghreifftiau clir o waith tebyg gan y Partneriaethau eraill.

4         Casgliadau ac argymhellion i’r Pwyllgor i’w hystyried

Mae’n hanfodol bod cynllunio darpariaeth addysg a hyfforddiant ôl-16 cyfrwng Cymraeg yn seiliedig ar ddata cyfredol. Fodd bynnag, pryderwn nad yw’r data am anghenion sgiliau Cymraeg a gesglir ar hyn o bryd gan y Partneriaethau yn ddigon cynhwysfawr, a bod gormod o ddibyniaeth ar ymchwil blaenorol sydd wedi dyddio erbyn hyn o bosibl. 

Credwn hefyd fod diffyg cysondeb yn y sylw a roddir i’r Gymraeg mewn cyhoeddiadau gan Bartneriaethau unigol. Nodwn nad yw’r dystiolaeth a gesglir yn arwain at argymhellion clir a phenodol am y Gymraeg yn aml. Nodwn hefyd fod Partneriaeth Gogledd Cymru’n hyrwyddo’r Gymraeg yn rhagweithiol, ond nid yw’r Partneriaethau eraill wedi ymgymryd â gweithgareddau tebyg. 

Gofynnwn i’r Pwyllgor felly ystyried argymell y dylai Llywodraeth Cymru wneud y canlynol:

¢  adolygu’r adnoddau sydd ar gael i PSRhau er mwyn casglu data am y Gymraeg;

¢  comisiynu ymchwil i adeiladu ar ganfyddiadau adroddiad Anghenion Sgiliau Cymraeg Mewn Wyth Sector (2014);

¢  sicrhau bod modd i’r Partneriaethau ac unrhyw ymchwil a gomisiynir roi sylw dyledus i ddetholiad eang o sectorau gwaith. Dylai’r rhain gynnwys y sectorau hynny sy’n arbennig o bwysig i siaradwyr y Gymraeg, megis y sector addysg. Fodd bynnag, gellir dadlau bod sgiliau Cymraeg yn berthnasol i bob sector mewn gwirionedd, a bydd pob un yn cyfrannu at wireddu gweledigaeth Strategaeth Cymraeg 2050; 

¢  adolygu’r cyfarwyddyd sy’n cael ei roi i PSRhau i sicrhau ei fod yn galluogi’r Partneriaethau i gasglu data cynhwysfawr am y Gymraeg a hyrwyddo’r iaith yn rhagweithiol yn unol â gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg fel y gwelir yn Strategaeth Cymraeg 2050. 

Gofynnwn hefyd i’r Pwyllgor ystyried argymell y dylai PSRhau wneud y canlynol, o fewn y cyfarwyddyd y maent yn ei dderbyn oddi wrth Lywodraeth Cymru:

¢  adolygu a chysoni ystod y data am y Gymraeg a gyhoeddir yn eu Cynlluniau Sgiliau a Chyflogaeth a chyhoeddiadau allweddol eraill, fel y bo modd creu darlun lleol a chenedlaethol cyson o anghenion sgiliau Cymraeg gweithlu Cymru;

¢  ymdrechu i lunio argymhellion cliriach mewn perthynas â’r Gymraeg fel rheol;

¢  ystyried i ba raddau mae modd i RLSP a LSkIP fabwysiadu agwedd mwy rhagweithiol tuag at hyrwyddo’r Gymraeg.

5         Sylwadau i gloi

Hoffwn danlinellu hefyd ein bod eisoes wedi cysylltu â swyddogion y Partneriaethau a rhanddeiliaid eraill i drafod materion megis geiriad yr arolygon, a’r potensial i gysoni a manteisio ar y ffynonellau data am sgiliau Cymraeg eraill sydd ar gael. Rydym yn ymwybodol hefyd o ymrwymiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i weithio’n agos â’r Partneriaethau i ddefnyddio data marchnad lafur at ddibenion cynllunio a hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith. Bydd gwella capasiti PSRhau yn allweddol i lwyddiant y fenter hon a gwireddu Strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.

Gobeithio bydd y sylwadau hyn o gymorth ichi.

Yr eiddoch yn gywir,

 

Meri Huws

Comisiynydd y Gymraeg 

                                         

1  Mae’r Cynlluniau Sgiliau PSRhau yn sail uniongyrchol ar gyfer cyfarwyddiadau Llywodraeth Cymru i ddarparwyr addysg bellach (ar ffurf llythyron cylch gwaith blynyddol) a dysgu seiliedig ar waith (ar ffurf contractau). Yn ogystal, deallwn fod PSRhau hefyd yn cyfathrebu’n uniongyrchol gyda’r darparwyr er mwyn mynd i’r afael â’r bylchau yn y ddarpariaeth bresennol. 

Mae Llywodraeth Cymru yn adnabod rôl i’r Partneriaethau yn nifer o bolisïau sy’n allweddol ar gyfer dyfodol addysg a chyflogaeth, gan gynnwys: Cynllun Gweithredu ar yr Economi; ‘Cysoni’r model Prentisiaethau ag anghenion economi Cymru’; cynigion ar gyfer sefydlu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i Gymru; a chynigion ar gyfer addasu’r drefn datblygu a chymeradwyo fframweithiau prentisiaeth yng Nghymru. 

Mae gan ddwy Bartneriaeth (RLSP a LSkIP) rôl yn y Bargeinion Dinesig. Mae LSkIP yn gweithio o fewn strwythurau Bargen Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Deallwn bod RLSP yn arwain ar Fenter Sgiliau a Thalentau yn rhan o Fargen Dinas Bae Abertawe. 

2  Tynnodd  LSkIP sylw at y broblem hon yn ei hadroddiad blynyddol llawn i Lywodraeth Cymru 2018 (nid ar gael ar wefan  y Bartneriaeth ar adeg ysgrifennu)

3 Mae’r adroddiad hwn ar gael ar y gwefan yn Saesneg yn unig.

4 Paratowyd ar gyfer LSkIP gan Coleg Caerdydd a’r Fro. Ystyriodd yr arolwg y sector Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch; Adeiladu; Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol; TGCh/Digidol (fel thema drawsbynciol); a’r Economi Sylfaenol Ddynol. Canfu’r ymchwil mai prin oedd y galw gan y rhan fwyaf o gwmnïau mawr, a dim ond galw bach gan gwmnïau llai.

5 Mae’r adroddiad llawn ar gael ar y gwefan yn Saesneg yn unig.